Cynhyrchiad gwreiddiol
Alarch
Heb Wên

Mae Alarch Heb Wên yn brofiad theatr trochi i blant 4 oed a hŷn, wedi’i ddatblygu mewn fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân.
Wedi’i gosod o amgylch llyn llygredig sydd wedi mynd yn angof, mae’r stori’n dilyn Elin, merch ifanc chwilfrydig a niwrowahanol sy’n darganfod bod pedalo alarch llonydd yn fyw, ac yn flin iawn. Mae’r alarch wedi anghofio sut i wenu, dan bwysau unigrwydd a dirywiad ei gartref.
Drwy theatr gorfforol chwareus, pypedwaith ac adrodd straeon, mae Elin a’r alarch yn helpu ei gilydd yn raddol, gan rannu profiadau o golli eu gwenau ac archwilio ffyrdd chwareus o ymateb i deimladau mawr. Mae Elin yn gwahodd yr alarch a’r gynulleidfa i ymuno â hi drwy anadlu, symud, chwarae gemau a datrys problemau gyda’i gilydd.
Daw’r gynulleidfa’n rhan o’r stori drwy helpu i lanhau’r llyn llygredig, cael gwared ar sbwriel a datgelu lliw, bywyd a hud oddi tano yn raddol.
Wrth i’r llyn drawsnewid, mae’r alarch yn trawsnewid hefyd, gan gysylltu gofal amdanom ni ein hunain â gofal am y byd o’n cwmpas.
